BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llyfr y Flwyddyn 2025

person reading a book

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn y ddwy iaith mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer 2025. Gwahoddir cyhoeddwyr ac awduron hunan-gyhoeddedig i wirio’r meini prawf cymhwysedd a chyflwyno unrhyw lyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn ystod 2024. Mae llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi hyd at 31 Rhagfyr 2024 yn gymwys ar gyfer Gwobr 2025.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Llun 25 Tachwedd 2024.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Llyfr y Flwyddyn 2025 - Agor i geisiadau  - Llenyddiaeth Cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.