BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llythyrau i fusnesau am y trefniadau masnachu newydd gyda’r UE o 1 Ionawr 2021

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi ysgrifennu at fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ym Mhrydain ac sy’n masnachu gyda’r UE, neu’r UE a gweddill y byd.

Maent yn egluro beth sydd angen i fusnesau angen ei wneud i baratoi ar gyfer prosesau newydd, neu symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE o 1 Ionawr 2021, gan gynnwys:

  • sicrhau bod ganddynt rif Adnabod a Chofrestru Gweithredwyr Economaidd y DU (EORI)
  • penderfynu sut byddant yn gwneud datganiadau tollau
  • gwirio a yw eu nwyddau a fewnforir yn gymwys ar gyfer mesurau rheoli mewnforio mewn cyfnodau

Ni fydd y camau hyn yn newid beth bynnag yw canlyniad trafodaethau’r llywodraeth gyda’r UE.

Gall busnesau weld y newyddion diweddaraf hyn am y newidiadau drwy gofrestru ar gyfer ddiweddariadau e-bost CThEM.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.