Bydd rhaid i fusnesau yng Nghymru gynnal asesiad risg penodol y coronafeirws o dan ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Bydd yr asesiadau risg hyn yn fan cychwyn ar gyfer gweithredu’r mesurau rhesymol sy’n ofynnol er mwyn lleihau’r cyswllt â’r coronafeirws mewn eiddo sy’n agored i’r cyhoedd ac mewn gweithleoedd.
Mae hyn yn cynnwys ystyried materion fel:
- a yw’r awyru'n ddigonol
- hylendid
- sicrhau bod cadw pellter corfforol yn digwydd
- defnyddio cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb
Bydd hefyd yn cynnwys ystyried sut mae cyflogwyr yn sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn gallu gweithio o gartref.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.