Mae digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ledled Cymru yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl yn y cnawd dros y misoedd nesaf wrth i drefnwyr newid yn ôl i berfformiadau cynulleidfaoedd byw.
Mae llawer o'r digwyddiadau cartref hyn wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy Ddigwyddiadau Cymru.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf o 2019, gwnaeth digwyddiadau a gefnogwyd drwy Ddigwyddiadau Cymru ddenu 200,000 o ymwelwyr i Gymru. Cynhyrchodd hyn werth £33.35 miliwn o effaith economaidd uniongyrchol/gwariant ychwanegol net i Gymru a chefnogodd dros 770 o swyddi drwy’r economi dwristiaeth ehangach.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf a datblygiad digwyddiadau cartref | LLYW.CYMRU