BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf

Mae Llywodraeth Cymru yn estyn ei mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf.

Mae’r estyniad hwn i’r moratoriwm ar fforffediad prydlesau masnachol yn cael ei gyhoeddi wrth i fusnesau manwerthu dianghenraid ddechrau ailagor yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf. Er y dylai’r rhent sy’n ddyledus gael ei dalu lle y bo’n bosibl, bydd y mesur hwn yn sicrhau na fydd unrhyw fusnes yn cael ei droi allan os bydd yn colli taliad yn ystod y tri mis nesaf.

Roedd disgwyl i’r mesur ddod i ben ar 30 Mehefin 2020 ond mae bellach wedi cael ei estyn hyd 30 Medi 2020. Bydd hyn yn helpu’r economi ar draws Cymru i adfer. Bydd yn atal achosion o droi pobl allan yn afresymol ac yn helpu i ddiogelu swyddi a busnesau a oedd yn masnachu cyn y pandemig.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Cod Ymarfer er mwyn hyrwyddo arferion da ar gyfer landlordiaid a thenantiaid wrth iddynt wynebu’r heriau sydd ynghlwm wrth y coronafeirws. Gallwch weld y Cod Ymarfer yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.