BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru’n cefnogi llwyfan darllen digidol newydd yn y Gymraeg

Darllen.co logo

Mae annog plant i ddarllen a gwella eu sgiliau llythrennedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a heddiw, ar Ddiwrnod y Llyfr, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn dathlu llwyfan darllen digidol newydd yn y Gymraeg.

Drwy ddefnyddio Darllen Co, gall plant ddarllen llyfrau Cymraeg, a gwrando arnyn nhw ar yr un pryd. Mae gwefan newydd yn cael ei datblygu hefyd, a fydd yn galluogi darllenwyr i glicio ar eiriau penodol i gael diffiniadau a gwybod sut i’w hynganu. Bydd hyn yn galluogi athrawon a rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus i ddarllen Cymraeg gyda phlant, lle nad oedd modd iddynt wneud hynny gyda llyfrau traddodiadol.

Sefydlwyd Darllen Co ar gyfer plant ysgolion cynradd, athrawon a rhieni, yn sgil Hacathon Technoleg Cymraeg a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy M-Sparc. Erbyn hyn, mae dros 40,000 o bobl a 70% o ysgolion Cymru’n defnyddio’r adnodd.

I ddysgu mwy am Darllen Co, ewch i darllenco.wales.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.