Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dau gynllun ar gyfer benthyca e-feiciau sydd wedi llwyddo i annog mwy o drigolion lleol i gyfnewid eu car am feic mewn cymunedau ar draws Cymru yn derbyn arian ychwanegol am flwyddyn arall.
Mae'r cynllun E-Move sy'n cael ei weithredu gan gynllun 'See Cycling Differently' Sustrans a Pedal Power ill dau wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru ers 2021 ac mae nifer sylweddol o bobl wedi defnyddio eu gwasanaeth.
Mae Sustrans yn cynnig e-feiciau amrywiol sy’n defnyddio batri am ddim, ar fenthyciad tymor canolig, i drigolion lleol nad ydynt yn beicio’n rheolaidd neu sy’n teimlo bod cost e-feiciau yn rhwystr i'w defnyddio.
Amcangyfrifir bod y cynllun sy'n gweithredu mewn pum lleoliad ar draws Cymru - y Rhyl, Abertawe, Y Drenewydd (sydd â chysylltiadau ag Aberystwyth) a'r Barri - wedi arbed 600kg o CO2 yn ei flwyddyn gyntaf, gyda defnyddwyr yn adrodd gostyngiad o 39% mewn teithiau car ac effaith gadarnhaol o 76% ar eu lles.
Mae prosiect 'See Cycling Differently' Pedal Power, sy’n anelu at gynyddu cynwysoldeb beicio drwy gynnig ystod o e-feiciau, hefyd wedi profi llwyddiant tebyg gyda chynnydd yn nifer y defnyddwyr rheolaidd o e-feiciau ac e-feiciau wedi’u haddasu a mwy o bobl yn manteisio ar sesiynau blasu gydag e-feiciau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llywodraeth Cymru'n parhau i gyllido cynlluniau e-feiciau llwyddiannus | LLYW.CYMRU