BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru’n ymestyn y cynllun cymhellion i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi estyn y cynllun cymhellion i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid yng Nghymru tan fis Chwefror 2022.

Mae’r Cynllun Cymhellion Cyflogwyr i Brentisiaid yn rhan allweddol o Ymrwymiad Covid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau a gweithwyr i wella o effeithiau’r coronafeirws.

Roedd y cynllun i fod i fod i gau ddoe (30 Medi 2021), ond bydd y cynllun nawr yn parhau i gefnogi busnesau tan 28 Chwefror 2022.

O dan y cynllun gall busnesau hawlio hyd at £4,000 am bob prentis newydd y maent yn ei gyflogi sydd o dan 25 oed. Bydd y cymhelliant o £4,000 ar gael i fusnesau sy'n cyflogi prentis ifanc am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Gallai busnesau o Gymru hefyd dderbyn £2,000 am bob prentis newydd o dan 25 oed y maent yn ei gyflogi am lai na 30 awr yr wythnos.

Ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn, gall busnesau gael £2,000 ar gyfer pob prentis newydd y maent yn ei gyflogi ar gontract o 30 awr neu fwy, a chymhelliant o £1,000 ar gyfer prentisiaid sy'n gweithio llai na 30 awr.

Cyfyngir taliadau i ddeg dysgwr fesul busnes. Mae cyllid pwrpasol hefyd ar gael i recriwtio pobl anabl.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.