Mae Llywodraeth y DU wedi nodi amserlen newydd ar gyflwyno rheolaethau mewnforio llawn ar gyfer nwyddau o'r UE i'r DU.
Bydd datganiadau a rheolaethau tollau llawn yn cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022 fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, er na fydd angen datganiadau diogelwch tan 1 Gorffennaf 2022.
O dan yr amserlen ddiwygiedig:
- Bydd y gofynion rhaghysbysu am nwyddau iechydol a ffytoiechydol (SPS), a oedd i fod i gael eu cyflwyno ar 1 Hydref 2021, yn cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022.
- Bydd y gofynion newydd ar gyfer tystysgrifau iechyd allforio, a oedd i fod i gael eu cyflwyno ar 1 Hydref 2021, yn cael eu cyflwyno ar 1 Gorffennaf 2022.
- Bydd tystysgrifau ffytoiechydol a gwiriadau ffisegol ar nwyddau SPS mewn safleoedd rheoli ffiniau, oedd i fod i gael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022, yn cael eu cyflwyno ar 1 Gorffennaf 2022.
- Bydd datganiadau diogelwch ar fewnforion bellach yn ofynnol ar 1 Gorffennaf 2022 yn hytrach nag 1 Ionawr 2022.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK