BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y DU yn annog sefydliadau i fod yn wyliadwrus o fygythiadau seiber

Mae busnesau ac elusennau'n cael eu hannog i gryfhau eu harferion seiberddiogelwch nawr wrth i ffigurau newydd ddangos bod amlder ymosodiadau seiber yn cynyddu. 

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi cyhoeddi nodyn yn datgan nad yw'n ymwybodol o unrhyw fygythiadau seiber penodol cyfredol i sefydliadau'r DU mewn perthynas â digwyddiadau o amgylch yr Wcráin, ond mae'n annog sefydliadau i ddilyn camau syml yn ei chanllawiau i leihau'r risg o ddioddef ymosodiad.

Dylai busnesau bach fabwysiadu'r cynllun Hanfodion Seiber i ddiogelu rhag y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin fel ymosodiadau potsian a defnyddio'r Canllaw Busnesau Bach i wella arferion seiberddiogelwch.

Dylai sefydliadau mwy ddefnyddio Pecyn Gwybodaeth y Bwrdd sicrhau bod swyddogion gweithredol cwmnïau yn gweithredu ar wydnwch seiber a dylai elusennau ddilyn y Canllaw Elusennau Bach  i hybu gweithrediadau seiberddiogelwch.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.