Mae'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn darparu £100,000 i'r elusen Veterans into Logistics, i gefnogi cyn-filwyr i ddod yn yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm.
Mae'r cyhoeddiad newydd yn ychwanegol at y £25m o gyllid gan Lywodraeth y DU sy'n cael ei ddosbarthu drwy Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i elusennau i gynnig cymorth i gyn-filwyr ledled y Deyrnas Unedig.
Mae'r grant wedi cael ei ddarparu i'r elusen Veterans into Logistics, sy'n darparu hyfforddiant pwrpasol i gyn-bersonél milwrol sy'n dymuno dilyn gyrfaoedd mewn gyrru Cerbydau Nwyddau Trwm.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Government funds HGV driver training programme for veterans - GOV.UK (www.gov.uk)