BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi diweddariad ar Fodel Gweithredu Ffin Prydain-UE

Ar 1 Ionawr 2021, bydd y cyfnod pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, a bydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu ffin lawn, allanol fel cenedl sofran. Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau yn cael eu rhoi ar waith ar symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE.

Mae’r canllawiau sydd wedi’u diweddaru yn darparu manylion pellach ar sut bydd ffin Prydain-UE yn gweithio a’r camau sydd angen i fasnachwyr, cludwyr a theithwyr eu cymryd, gan gynnwys:

  • manylion pellach ar gyfer busnesau a theithwyr ar sut y bydd y ffin Prydain-UE yn gweithredu ar ddiwedd y cyfnod pontio
  • bydd angen Trwydded Mynediad i Gaint ar gludwyr i fynd ymlaen at y ffin
  • cadarnhau na fydd cardiau adnabod yr UE, AAE a gwladolion y Swistir yn dderbyniol ar gyfer teithio i’r DU, gan gynnwys gyrwyr, o fis Hydref 2021.

I roi rhagor o amser i’r diwydiant wneud y trefniadau angenrheidiol, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cyflwyno mesurau rheoli ffiniau newydd mewn tri cham tan 1 Gorffennaf 2021.

Mae’r Model Gweithredu Ffiniau wedi’i ddiweddaru ar gael yma.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.