BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y DU yn cymryd camau pellach i fynd i’r afael â’r prinder o yrwyr HGV

Bydd profion gyrru HGV yn cael eu hailwampio, gyda gyrwyr yn gorfod sefyll 1 prawf yn unig i yrru lori anghymalog a chymalog, yn hytrach na sefyll 2 brawf gwahanol (3 wythnos ar wahân).

Bydd profion yn cael eu byrhau hefyd drwy ddileu’r elfen ‘ymarfer gyrru am yn ôl’ – a’r ymarfer ‘datgysylltu ac ailgysylltu’ i gerbydau â threlar – gan eu cynnal fel prawf ar wahân gan drydydd parti. Mae’r rhan hon o’r prawf yn cael ei chynnal oddi ar y ffordd mewn ardal symud ac yn cymryd llawer iawn o amser. Bydd profi symudiadau o’r fath ar wahân yn rhyddhau amser yr arholwr, sy’n golygu y bydd yn gallu cwblhau prawf llawn arall bob dydd.

Mae’r newidiadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf.

Ni fydd rhaid i yrwyr ceir sefyll prawf arall i dynnu trelar neu garafán o hyn allan, Rheolau newydd ar gyfer tynnu trelar neu garafán â char o hydref 2021 

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.