BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth y DU yn datgelu diwygiadau sylweddol i hawliau cyflogaeth

Hair dresser and client in salon

Mae Llywodraeth y DU wedi datgelu'r Bil Hawliau Cyflogaeth, o 10 Hydref 2024, i helpu i sicrhau diogelwch a thwf economaidd i fusnesau, gweithwyr a chymunedau ledled y DU.

Bydd y bil yn cyflwyno 28 o ddiwygiadau cyflogaeth unigol, o roi terfyn ar gontractau dim oriau ac arferion diswyddo ac ailgyflogi sy’n camfanteisio ar weithwyr i sefydlu hawliau o’r diwrnod cyntaf i absenoldeb tadolaeth, rhieni a phrofedigaeth ar gyfer miliynau o weithwyr. Bydd tâl salwch statudol hefyd yn cael ei gryfhau, gan gael gwared ar y terfyn enillion is ar gyfer pob gweithiwr a thorri'r cyfnod aros cyn dechrau talu tâl salwch. 

I gyd-fynd â hyn bydd mesurau i helpu i wneud y gweithle yn fwy cydnaws â bywydau pobl, â gweithio’n hyblyg yn digwydd yn ddiofyn lle bo hynny'n ymarferol. Bydd hefyd yn ofynnol i gyflogwyr mawr greu cynlluniau gweithredu ar fynd i'r afael â bylchau cyflog rhwng y rhywiau a chefnogi gweithwyr trwy'r menopos, a bydd amddiffyniadau rhag diswyddo yn cael eu cryfhau ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd. 

Bydd Asiantaeth Gwaith Teg newydd a fydd yn dwyn y cyrff gorfodi presennol ynghyd hefyd yn cael ei sefydlu i orfodi hawliau fel tâl gwyliau ac i gefnogi cyflogwyr sy'n chwilio am arweiniad ar sut i gydymffurfio â'r gyfraith.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Government unveils most significant reforms to employment rights - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.