Mae’r cynllun ffyrlo wedi’i ymestyn a bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau gweithwyr am oriau heb eu gweithio tan ddiwedd Ebrill 2021.
Bydd ond yn ofynnol i gyflogwyr dalu cyflogau, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn ar gyfer yr oriau a weithiwyd; a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn ar gyfer oriau na weithiwyd.
Gall busnesau ddefnyddio’r cynlluniau benthyciadau canlynol tan ddiwedd Mawrth 2021 hefyd:
- Cynllun Benthyciadau Adfer
- Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws
- Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Mawr yn sgil y Coronafeirws
Roedd y rhain i fod i gau ddiwedd Ionawr 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.