BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae amser yn brin i gwsmeriaid sydd â chyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post

Dim ond pythefnos sydd gan tua 24,000 o gwsmeriaid Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) sydd â chyfrif cerdyn Swyddfa’r Post i hysbysu’r adran o fanylion talu newydd cyn y dyddiad cau ar 30 Tachwedd 2021, neu wynebu risg y bydd taliadau’n cael eu hoedi.

O 1 Rhagfyr 2021, bydd CThEM yn rhoi’r gorau i wneud taliadau credydau treth, taliadau Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad i gyfrifon cardiau Swyddfa’r Post. Mae CThEM yn annog deiliaid cyfrifon i gysylltu â nhw i ddiweddaru manylion eu cyfrif banc er mwyn parhau i dderbyn eu taliadau heb unrhyw darfu.

Gall cwsmeriaid ddewis derbyn eu budd-daliadau a’u taliadau credyd i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Os oes ganddynt gyfrif arall eisoes, gallant gysylltu â CThEM nawr i ddiweddaru eu manylion.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.