BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae ceisiadau Step to Non Exec Chwarae Teg ar agor yn swyddogol!

Mae Step to Non Exec yn rhaglen ddatblygu 12 mis sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu chi i fagu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn eich galluogi i gyflawni eich swydd bwrdd cyntaf. Drwy'r rhaglen hon, byddwch yn gallu cysgodi bwrdd sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a chael mynediad at fentor o'r bwrdd a fydd yn gallu eich helpu i osod nodau cyraeddadwy clir yn eich taith i fod yn aelod swyddogol o'r bwrdd. Efallai y bydd cyfleoedd hyfforddi eraill ar gael hefyd gan y sefydliad yr ydych yn ei gysgodi.

Mae ceisiadau ar gyfer Hydref 2022 – Hydref 2023 ar agor yn swyddogol! Er bod cynnydd yn digwydd o ran targedau rhywedd, mae menywod mewn swyddi arweinyddiaeth uwch yn dal i fod yn llawer yn rhy brin ac mae diffyg amrywiaeth yn parhau i fod yn syfrdanol o wael. Dim ond wyth o'r 100 cwmni uchaf yn y DU sydd â Phrif Swyddog Gweithredol benywaidd, a does yr un o’r rhain yn fenyw o liw.  Helpwch ni i newid hyn.

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen hon a manylion y broses ymgeisio, dilynwch y ddolen hon: Step to Non Exec - Chwarae Teg


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.