BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae Gwirfoddoli Cymru yn cysylltu gwirfoddolwyr a mudiadau

Volunteers

Mae’r platfform Gwirfoddoli Cymru sydd wedi’i ail-lansio yn ffordd syml, effeithiol, rhad ac am ddim i fudiadau a gwirfoddolwyr ddarganfod ei gilydd.

Wedi’i rheoli gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru, mae wefan Gwirfoddoli Cymru yn cysylltu gwirfoddolwyr gyda’r mudiadau gwirfoddol sydd eu hangen, ac allai ddim bod yn haws ei defnyddio.

Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, ac mae dros mil o fudiadau eisoes wedi manteisio arni er mwyn dechrau hysbysebu eu cyfleoedd gwirfoddoli i’r cyhoedd.

 Os ydych chi’n fudiad sy’n chwilio am wirfoddolwyr newydd, neu’n rhywun sy’n dymuno rhoi yn ôl i’w cymuned, gall Gwirfoddoli Cymru eich helpu i ddarganfod yr hyn sydd ei angen.

Mae Gwirfoddoli Cymru yn caniatáu i chi ddangos yn uniongyrchol beth all gwirfoddoli i’ch mudiad ei gynnig i bobl, ac mae’n ffordd syml i wirfoddolwyr gofrestru a chofnodi eu gweithgarwch gwirfoddol.

Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn y sector gwirfoddol, ac ar adeg pan mae amser ac arian yn brin i lawer, nod Gwirfoddoli Cymru yw gwneud eich profiad mor rhwydd a gwerth chweil â phosibl – cofrestrwch am ddim heddiw.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.