BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae iechyd a diogelwch yn hanfodol i bob gweithiwr tymhorol

Gan fod llawer o swyddi tymhorol yn cael eu llenwi yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'n bwysig bod cyflogwyr yn diogelu iechyd a diogelwch gweithwyr yr economi gig, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro. 

Cofiwch fod gweithwyr yr un mor debygol o gael damwain yn y chwe mis cyntaf mewn gweithle ag y maent yn ystod gweddill eu bywyd gwaith. 

Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) arweiniad i helpu defnyddwyr a chyflenwyr gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro ddeall eu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Health and safety for gig economy, agency and temporary workers - HSE

Os ydych yn weithiwr asiantaeth neu'n weithiwr dros dro, mae eich iechyd a'ch diogelwch yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith ac mae dyletswydd ar fusnesau cyflogaeth (asiantaethau) i sicrhau eu bod yn ei ddilyn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Your health and safety as a gig economy, agency or temporary worker - HSE

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.