BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae mesurau 'digyffelyb' ac 'arloesol' yn mynd i'r afael ag ail gartrefi a fforddiadwyedd yng Nghymru

Barmouth, Gwynedd

Heddiw (12 Mawrth 2024) mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyflwyno datganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â materion a achosir gan berchnogaeth ail gartrefi a ddisgrifiodd fel rhai 'digyffelyb yng nghyd-destun y DU'.

Mae mynd i'r afael â'r nifer fawr o ail gartrefi a llety gosod tymor byr mewn llawer o gymunedau yn un o'r ymrwymiadau a amlinellir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, gweithredwyd cyfres gynhwysfawr o fesurau i helpu i reoli niferoedd ail gartrefi a llety gosod tymor byr yn y dyfodol.

Ym mis Ebrill 2023, cafodd awdurdodau lleol y pwerau i gyflwyno premiymau treth gyngor dewisol uwch ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor - hyd at 300%.

O fis Ebrill eleni ymlaen, bydd 18 yn gosod premiymau ar un neu'r ddau o'r mathau hyn o eiddo.

Mae nifer o awdurdodau lleol hefyd wedi nodi eu bod yn bwriadu cynyddu'r ganran a godir flwyddyn ar ôl blwyddyn dros gyfnod o dair blynedd, hyd at yr uchafswm newydd, yn enwedig ar gyfer eiddo gwag tymor hir.

Mae cefnogaeth hefyd wedi'i rhoi ar waith ar gyfer perchnogion tai sy'n ei chael hi'n anodd.

Blaenoriaeth uniongyrchol oedd ystyried bwlch yn y farchnad i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd fforddio taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref oherwydd yr argyfwng costau byw.

Yn y cyd-destun hwnnw, datblygwyd a lansiwyd y cynllun Cymorth i Aros Cymru ym mis Tachwedd 2023, gyda hyd at £40 miliwn ar gael dros ddwy flynedd i helpu i gadw pobl a theuluoedd yn eu cartrefi.

Y llynedd, cyflwynwyd y cynllun Grant Cartrefi Gwag gwerth £50 miliwn hefyd, gan helpu i ailddefnyddio hyd at 2,000 o gartrefi gwag hirdymor.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ddiogelu'r gyllideb o £25 miliwn ar gyfer 2024/25 ac fe ohiriodd £19 miliwn o gyllideb 2023-24 hyd at 2025-26 i wneud y mwyaf o effaith y cynllun.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.