BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

“Mae popeth ry’n ni’n ei wneud yn helpu i ddiogelu ein gilydd” – Y Prif Weinidog Mark Drakeford

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei bod yn bwysig parhau i wneud y pethau syml i ddiogelu iechyd y cyhoedd i reoli lledaeniad y coronafeirws.

Soniodd am bum peth hawdd y gallwn ni i gyd eu gwneud, gan gynnwys aros gartref os oes gennym symptomau’r coronafeirws.

Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws.

Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod mewn grym am y tair wythnos nesaf, gan barhau i ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgil y coronafeirws.

Ond bydd y gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiadau risg penodol i’r coronafeirws yn dod i ben ddydd Llun 18 Ebrill. Bydd busnesau’n parhau i gael eu hannog i gymryd camau i weithredu mewn modd diogel o ran Covid.

Cael y brechlyn yw’r peth pwysicaf y gall pawb ei wneud i ddiogelu eu hunain – mae brechiad atgyfnerthu ar gael y gwanwyn hwn i bobl 75 mlwydd oed a hŷn; pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn a phobl 12 mlwydd oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan. Mae byrddau iechyd yn anfon gwahoddiadau i bawb cymwys.

Mae gwahoddiadau hefyd yn cael eu hanfon i deuluoedd sydd â phlant rhwng 5 ac 11 mlwydd oed sydd nawr yn gymwys am ddos sylfaenol o frechlyn Covid-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pum cam syml y gall pobl eu cymryd i helpu i ddiogelu pawb:

  1. Aros gartref (hunanynysu) os ydych yn sâl neu’n profi’n bositif am y coronafeirws.
  2. Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus prysur o dan do.
  3. Cwrdd yn yr awyr agored pan fo’n bosibl ac awyru mannau o dan do yn dda os byddwch yn cwrdd o dan do.
  4. Cymryd camau ychwanegol pan fyddwch yn ymweld â phobl agored i niwed. Dylech osgoi cwrdd â nhw os yw’n bosibl os oes gennych unrhyw symptomau haint anadlol.
  5. Golchi dwylo’n rheolaidd a gorchuddio’ch ceg a’ch trwyn pan fyddwch yn peswch ac yn tisian.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 5 Mai 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.