BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae Proses Ymgeisio Awduron Wrth eu Gwaith 2024 Nawr ar Agor!

Writer

Mae Gŵyl y Gelli wedi lansio Awduron wrth eu Gwaith 2024, rhaglen datblygu creadigol ar gyfer talent newydd o Gymru yng Ngŵyl y Gelli (23 Mai - 2 Mehefin 2024), mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, a thrwy gefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Awduron wrth eu Gwaith yn cynnig wythnos lawn o gyfleoedd datblygu creadigol, ac yn caniatáu i’r awduron sydd yn cael eu dewis gymryd rhan ym mhrif ddigwyddiadau’r Ŵyl, mynychu dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantau ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 2pm, Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024.

Mae’r rhaglen yn agored i awduron sydd yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg ar draws gwahanol genres – ffuglen, ffeithiol, ffeithiol-greadigol a barddoniaeth – ac mae’r broses ymgeisio bellach ar agor. Gallwch ddarganfod rhagor ar wefan Gŵyl y Gelli.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.