BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae £1.4 miliwn bellach ar gael ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru

Porthclais harbour Ty Ddewi St Davids Pembrokeshire Wales

Mae dros £1 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaeth yng Nghymru.

Nod y cynllun yw sicrhau twf cynaliadwy yn y sector a helpu cymunedau arfordirol i ffynnu.
Mae'r £1.4 miliwn ar gael o £700,000 o gyllid refeniw a £700,000 o gyllid cyfalaf. Bydd y cyfnod ymgeisio yn parhau ar agor am 10 wythnos, gan gau ar 24 Mawrth. Gellir cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau drwy'r cynllun o dan 11 categori ar wahân. 

  • Mae'r gweithgareddau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
  • Cyllid i gynyddu potensial safleoedd dyframaeth ac offer ar gychod gyda'r nod o leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni; 
  • Cyngor proffesiynol i fusnesau sy'n amrywio o gynaliadwyedd yr amgylchedd morol i gynlluniau busnes a marchnata;
  • Gallai ymgeiswyr hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer eitemau iechyd a diogelwch dewisol ar fwrdd cychod neu ar y tir.

Roedd y cylch ariannu diwethaf yn darparu grantiau ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys eitemau fel peiriannau iâ, peiriannau naddu iâ, cloriannau, blychau oeri i bysgotwyr, addasiadau i gychod i wella effeithlonrwydd ynni, a phrosiectau casglu tystiolaeth forol.

Y dyfarniad grant uchaf fesul cais yw £100,000 a'r dyfarniad grant isaf yw £500.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Mawrth 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Mae £1.4 miliwn bellach ar gael ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.