O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd y rhyddid i symud rhwng y DU a’r UE yn dod i ben a bydd y DU yn cyflwyno system fewnfudo newydd seiliedig ar bwyntiau.
Bydd y system newydd yn cyflwyno gofynion swydd, cyflog ac iaith, gan drin dinasyddion o’r UE a thu allan i’r UE yn gyfartal a thrawsnewid y ffordd y mae cyflogwyr yn recriwtio o du allan i’r DU.
O 1 Ionawr 2021 ymlaen, byddwch angen trwydded noddwr i gyflogi’r bobl fwyaf cymwys o du allan i’r DU, ac eithrio dinasyddion o’r Iwerddon, sy’n cael eu heithrio.
Bydd y broses yn cymryd wyth wythnos fel arfer a bydd yn rhaid talu ffioedd.
- lawrlwythwch y canllawiau cyflogwyr am gyflwyniad manwl i’r system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau.
- cofrestrwch i dderbyn diweddariadau e-bost ar y system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau
- darllennwch y canllawiau noddi llawn ar gyfer cyflogwyr.
Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK