Bydd y sioe rithwir nid yn unig yn cynnig llwyfan i bartneriaid gynnal seminarau a sesiynau holi ac ateb byw, ond bydd yn canolbwyntio hefyd ar addysgu’r cyhoedd ynglŷn ag amaethyddiaeth, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd.
Bydd yn arddangos nifer o unigolion sy’n arbenigwyr yn eu maes i annog ymroi i sgil newydd neu arfer techneg newydd a fydd yn fodd i grefft draddodiadol barhau i fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Sioe Frenhinol Cymru.