BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mai 2024: Cyfleoedd ariannu newydd gan Innovate UK

hands holding a lightbulb

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd ariannu sy’n agored i fusnesau yng Nghymru ar gyfer arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael mynediad at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-lein (business-events.org.uk) 

Arloeswyr newydd ym maes rhwydweithiau cyfathrebu 2024

Gall microfusnesau a busnesau bach sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £500,000 er mwyn datblygu syniadau arloesol ym maes rhwydweithiau cyfathrebu y gellir eu mabwysiadu a buddsoddi ynddynt. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: New innovators in communication networks 2024 – UKRI

Cronfa sbarduno llongau clyfar

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £8 miliwn ar gyfer technolegau llongau clyfar arloesol ar gyfer datgarboneiddio morol. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais:  Smart Shipping Acceleration Fund – UKRI

Cronfa Coridorau Gwyrdd Rhyngwladol: Astudiaethau dichonoldeb y DU ac Iwerddon

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU a sefydliadau Gwyddelig wneud cais am gyfran o hyd at £860,000 ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd sy'n canolbwyntio ar lwybrau coridorau llongau gwyrdd y DU ac Iwerddon. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: International Green Corridors Fund: UK-Ireland feasibility studies – UKRI

Partneriaethau buddsoddwyr Innovate UK: dewis buddsoddwyr

Gall buddsoddwyr wneud cais i weithio mewn partneriaeth gydag Innovate UK i fuddsoddi mewn microfusnesau, busnesau bach a chanolig arloesol sy'n cyd-fynd â chyllid grant. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Innovate UK investor partnerships: investor selection April 2024 – UKRI

Sylfeini dylunio rownd 5

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar bobl a dylunio systemig ar draws ystod o themâu a meysydd arloesi.  Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Design foundations round five – UKRI

Cystadleuaeth 3 Rhaglen Creu Twf Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Gall microfusnesau, busnesau bach a chanolig o’r sector creadigol sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am rhwng £10,000 a £30,000 o gyllid ar gyfer prosiectau arloesi er mwyn tyfu eu busnes. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: DCMS Create Growth Programme competition three – UKRI

Cronfa Grant Asedau Gwybodaeth: Ehangu, 2024 i 2025

Gall sefydliadau sector cyhoeddus cymwys yn y DU wneud cais am hyd at £100,000 o’r Gronfa Grant Asedau Gwybodaeth i gefnogi’r gwaith o nodi a datblygu asedau gwybodaeth y sector cyhoeddus. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Knowledge Asset Grant Fund: Expand, 2024 to 2025 – UKRI 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.