BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Manteision cyflwyno eich ffurflen dreth yn gynnar

office laptop

Er nad oes rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen a thalu eich trethi tan 31 Ionawr 2025, mae manteision i’w cael o gyflwyno eich ffurflen dreth yn gynnar ͏– gallwch: 

  • weld a oes ad-daliad ar ei ffordd i chi yn gynt, a’i gael yn gynharach hefyd 
  • talu mewn rhandaliadau er mwyn hwyluso’ch cyllidebu
  • cael help os na allwch dalu treth eich Hunanasesiad
  • osgoi’r pwysau a’r straen a ddaw o’i wneud ar y funud olaf
  • defnyddio eich ffurflen dreth fel prawf o incwm ar gyfer morgais, ailforgeisio, benthyciad ac unrhyw hawliadau am fudd-dal

Nid oes rhaid talu’ch treth ar unwaith pan fyddwch chi’n cyflwyno’r ffurflen yn gynnar. Cewch weld faint o dreth sy’n ddyledus (os oes peth), ond ni fydd rhaid ei thalu tan 31 Ionawr 2025.

Mae cyngor ac awgrymiadau ar sut i gwblhau eich ffurflen dreth yn gynnar i’w cael ar wefan GOV.UK. 

Mae gan CTHEF Sianel YouTube sydd â fideos a allai eich helpu i lenwi eich ffurflen dreth, ac os byddwch angen unrhyw beth arall gallwch ddefnyddio ein cynorthwyydd digidol a sgwrsio ar-lein

Gallwch chi ddefnyddio offeryn ar-lein CThEF i wirio a oes angen i chi anfon ffurflen dreth Hunanasesiad. Os nad ydych angen cwblhau ffurflen dreth bellach, gwyliwch fideos CThEF ar roi'r gorau i Hunanasesu


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.