BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Manteisiwch ar gyflwyno eich ffurflen dreth Hunanasesiad yn gynnar

Cyflwynodd mwy na 77,500 o gwsmeriaid eu ffurflenni treth 2022 i 2023 ar 6 Ebrill 2023.

Beth am ymuno â nhw drwy gyflwyno eich ffurflen dreth Hunanasesiad nawr a chael tawelwch meddwl am weddill y flwyddyn.

Mae gennych tan 31 Ionawr 2024 i gyflwyno eich ffurflen a thalu unrhyw dreth a all fod yn ddyledus gennych, ond mae llawer o fanteision i gyflwyno'n gynnar – gallwch:

  • ddarganfod yn gynt os oes arian yn ddyledus i chi 
  • talu mewn rhandaliadau i helpu gyda'ch cyllidebu 
  • cael help os na allwch dalu'ch treth Hunanasesiad 
  • osgoi straen cyflwyno ar y funud olaf

Nid yw cyflwyno’n gynnar yn golygu taliad cynnar 

Nid yw dewis cyflwyno'ch ffurflen dreth yn gynnar yn golygu bod rhaid i chi dalu CThEF ar unwaith. Mae dyddiad cau 31 Ionawr ar gyfer talu yn parhau. 

Os oes angen i chi gyflwyno'ch ffurflen dreth, mae llawer o wybodaeth ar File your tax return early (GOV.UK)

Os oes angen mwy o gymorth arnoch, mae gan sianel YouTube CThEF fideos defnyddiol ar lenwi eich ffurflen dreth, neu ar gyfer unrhyw beth arall, gallwch ddefnyddio Self Assessment: chat 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.