BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnacheiddio symudedd cysylltiedig ac awtomataidd: y gadwyn gyflenwi

Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda'r Centre for Connected and Autonomous Vehicles (CCAV) i fuddsoddi hyd at £16 miliwn mewn prosiectau arloesi.

Nod y gystadleuaeth hon yw targedu cyfleoedd cerbydau hunanyrru masnachol cynnar a chefnogi cadwyn gyflenwi'r DU i dyfu a llenwi bylchau technoleg sy'n angenrheidiol ar gyfer eu defnyddio.

Bydd y prosiectau hyn yn datblygu technolegau, cynhyrchion a gwasanaethau Symudedd Cysylltiedig ac Awtomataidd (CAM) yn gynigion masnachol er mwyn manteisio ar farchnadoedd masnachol tymor cynnar a chanolig yn y DU a thramor.

Rhaid i'ch prosiect gryfhau galluoedd prif gadwyn gyflenwi CAM y DU. Rhaid iddo wella diogelwch eiddo a diogelwch personol CAM, llenwi bylchau technoleg penodol, gwella perfformiad, dibynadwyedd a chyfleoedd datblygu yn y DU ac yn fyd-eang.

Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i gydweithrediadau yn unig, ac i arwain prosiect, rhaid i'ch sefydliad fod yn fusnes cofrestredig yn y DU.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 11 Ionawr 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - Commercialising Connected and Automated Mobility: Supply Chain - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.