BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu â’r UE

Anogir masnachwyr i sicrhau eu bod yn gwbl gyfarwydd â’r rheolau masnachu newydd. Er bod cydymffurfiaeth â’r rheolau newydd yn parhau yn uchel, mae cynnydd mewn traffig ar y ffin yn cynyddu’r posibilrwydd o darfu.

Mae’n rhaid i allforwyr ddarparu’r ddogfennaeth gywir i gludwyr:

  • gan gynnwys datganiadau allforio a’r tystysgrifau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer cynnyrch, fel planhigion a chynhyrchion anifeiliaid,
  • mae’n rhaid i gludwyr sy’n anelu am Gaint gael prawf Covid negyddol a chael Kent Access Permit cyn cyrraedd y porthladd, neu wynebu’r perygl o gael dirwy a chael eu troi i ffwrdd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor a chanllawiau pwysig ar gyfer busnesau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.