BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu gyda’r UE: Gwybodaeth i fusnesau

Fe wnaeth y DU adael yr UE ar 31 Rhagfyr. Daeth rheolau’r berthynas newydd rhwng yr UE a’r DU i rym ar 1 Ionawr 2021.

Mae’r ffordd mae busnesau’r DU yn prynu a gwerthu gyda’r UE wedi newid, a gallai hyn effeithio ar eich busnes chi.

Cyflwynwyd canllawiau newydd ar y canlynol:

Darparu gwasanaethau a sefydlu busnes: Camau i’w cymryd os ydych chi am ddarparu gwasanaeth neu sefydlu busnes yn y DU. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

Cofrestru ac adnewyddu enwau parthau .eu yn y DU: Beth sydd angen ei wneud os oes gennych chi barth .eu neu am gofrestru un. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

Defnyddio eich ffôn symudol yng ngwledydd yr UE a’r AAE: Canllawiau ar sut mae gadael yr UE wedi effeithio ar drawsrwydweithio symudol yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

UK economic interest groupings (UKEIG): Canllawiau sy’n esbonio prif nodweddion UK Economic Interest Groupings (UKEIG) a’r gwahaniaethau mwyaf rhwng ffurflenni corfforaethol UKEIG ac EEIG. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

UK Societas: Canllawiau am weinyddu a rheoli Societas. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

Data, Eiddo Deaullusol ac chyfraith Hawlfraint

Defnyddio eich data personol yn eich busnes neu sefydliadau eraill: Canllawiau ar ba gamau sydd angen eu cymryd o safbwynt diogelu data a llifau data yn yr UE/AEE. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

Cadw diogelwch yn y DU ar gyfer hawliau Eiddo Deallusol yr UE: Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

I ddysgu mwy am sut i baratoi'ch busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a'r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.