Newydd: Canllawiau cam wrth Gam ar fewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE: Mae rheolau newydd ar gyfer mewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a gwledydd yn yr UE. Waeth a ydych yn cwblhau datganiadau tollau eich hun neu'n cael cyfryngwr i wneud hynny ar eich rhan, bydd y canllawiau hyn yn eich tywys chi drwy bob cam ac yn nodi eich opsiynau.
- Mewnforio nwyddau i'r DU: cam wrth gam: Sut i ddod â nwyddau i'r DU o unrhyw wlad, gan gynnwys faint o dreth a thollau y bydd angen i chi eu talu ac a oes angen i chi gael trwydded neu dystysgrif.
- Allforio nwyddau o'r DU: cam wrth gam: Sut i symud nwyddau o'r DU i gyrchfannau rhyngwladol, gan gynnwys yr UE.
Newydd: Safleoedd arddangos DEFRA i gael y wybodaeth ddiweddaraf am allforio a symud nwyddau o Brydain Fawr i'r UE a Gogledd Iwerddon: Mae safleoedd arddangos DEFRA yn siop un stop o wybodaeth a dogfennau defnyddiol i fasnachwyr sy'n allforio anifeiliaid byw neu gynhyrchion anifeiliaid.
- Symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
- Allforio nwyddau o Brydain Fawr i'r Undeb Ewropeaidd.
Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.