BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu gyda’r UE: Symud nwyddau

Fe wnaeth y DU adael yr UE ar 31 Rhagfyr. Daeth rheolau’r berthynas newydd rhwng yr UE a’r DU i rym ar 1 Ionawr 2021.

Mae’r ffordd mae busnesau’r DU yn prynu a gwerthu gyda’r UE wedi newid, a gallai hyn effeithio ar eich busnes chi.

Cyflwynwyd canllawiau newydd ar y canlynol:

Trwydded y DU i’r Gymuned ar gyfer Cludo Nwyddau ar Loriau yn Rhyngwladol: Canllawiau ar gael trwydded y DU ar gyfer y Gymuned er mwyn cludo nwyddau ar loriau neu drwy’r UE, Liechtenstein, Norwy a’r Swistir, a’r rheolau i’w dilyn. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

Anfon parseli rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021: Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud fel busnes neu unigolyn sy’n defnyddio cludydd cyflym (gan gynnwys y Royal Mail Group) i symud parseli rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

Cludo nwyddau ar ffyrdd rhyngwladol: Beth sydd angen i gwmnïau cludo nwyddau o’r DU ei wneud er mwyn teithio dramor. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.

I ddysgu mwy am sut i baratoi’ch busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.