BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mawrth 2024: Cyfleoedd cyllido gan Innovate UK

group of colleagues

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd cyllido sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru er mwyn iddynt arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Business Wales Events Finder - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)

Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol: rownd 9

Gall ymchwilwyr ac arloeswyr gyrfa gynnar sydd wedi’u lleoli mewn sefydliadau academaidd neu anacademaidd cymwys wneud cais am gyfran o hyd at £100 miliwn o gyllid i gefnogi rhaglenni ymchwil neu arloesi. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais: Future Leaders Fellowships: round 9 – UKRI

Arloesi ym maes deiet ac iechyd: prosiectau dichonoldeb cam cynnar

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £2.5 miliwn ar gyfer prosiectau dichonoldeb cam cynnar sy’n gweithio gydag un neu fwy o’r hybiau Clwb Ymchwil Arloesi Agored Deiet ac Iechyd. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais: Diet and health innovation: early stage feasibility projects – UKRI

Grantiau clyfar 2024

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer arloesiadau ymchwil a datblygu blaengar a masnachol hyfyw a all gael effaith sylweddol ar economi’r Deyrnas Unedig. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais: Smart grants: Jan 2024 – UKRI

Datgloi natur yn gadarnhaol: cyfle buddsoddi preifat

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn i ddatblygu datrysiadau sy’n galluogi buddsoddwyr preifat i fuddsoddi mewn prosiectau natur gadarnhaol. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais: Unlocking nature positive private investment – UKRI

Cronfa Grant Asedau Gwybodaeth: estyniad, gwanwyn 2024

Gall sefydliadau sector cyhoeddus cymwys yn y Deyrnas Unedig wneud cais am hyd at £250,000 i helpu i fanteisio ar asedau anniriaethol sydd â chymhwysiad neu sylfaen gleientiaid ehangach na’r sefydliad sy’n berchen arnynt. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais: Knowledge Asset Grant Fund: extend, spring 2024 – UKRI 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.