BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Medi 2024: Cyfleoedd ariannu newydd gan Innovate UK

Lightbulb innovation

Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth (KTP): 2024 i 2025 rownd tri

Gall sefydliadau academaidd, sefydliadau ymchwil a thechnoleg (RTOs) neu ganolfannau Catapwlt sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £9 miliwn i ariannu prosiectau arloesi gyda busnesau neu sefydliadau nid-er-elw. Y dyddiad cau yw 25 Medi 2024. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

Launchpad: y clwstwr morol a morwrol yn y De-orllewin Mawr, Lloegr: rownd 2

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £3 miliwn ar gyfer prosiectau a arweinir gan fusnesau sy'n tyfu eu gweithgareddau arloesi yn y clwstwr morol a morwrol yn y De-orllewin Mawr, Lloegr. Y dyddiad cau yw 16 Hydref 2024. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

Gweithgynhyrchu meddyginiaethau cynaliadwy: Mynegi diddordeb

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am hyd at £100,000 mewn prosiectau mynegi diddordeb ar gyfer Heriau Mawr mewn gweithgynhyrchu meddyginiaethau cynaliadwy. Y dyddiad cau yw 16 Hydref 2024. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

Grantiau clyfar

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer arloesiadau ymchwil a datblygu sy’n chwyldroadol ac sy’n fasnachol hyfyw ac a allai gael effaith sylweddol ar economi’r DU. Y dyddiad cau yw 23 Hydref 2024. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

Benthyciadau arloesi economi’r dyfodol: rownd 17

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesol sydd â photensial masnachol cryf i wella economi’r DU yn sylweddol. Y dyddiad cau yw 30 Hydref 2024. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

Rhaglen Gwrthsefyll Trychinebau Eureka

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1 miliwn i ddatblygu technolegau ym maes gwrthsefyll trychinebau, ac ymateb ac adfer wedi trychineb. Y dyddiad cau yw 31 Hydref 2024. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

Eureka Globalstars Japan: rownd 3

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn i ddatblygu cynigion arloesol mewn partneriaeth â Japan a gwledydd eraill Eureka sy'n cymryd rhan. Y dyddiad cau yw 4 Rhagfyr 2024. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd ariannu sydd ar gael i fusnesau Cymru i arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael gafael ar y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-lein (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.