Os ydych chi'n hunangyflogedig neu'n aelod o bartneriaeth ac wedi cael eich effeithio gan y coronafeirws (COVID-19), dewch i weld a allwch chi ddefnyddio'r cynllun hwn i hawlio grant.
Os nad oeddech chi'n gymwys i gael y grant cyntaf a'r ail grant yn seiliedig ar yr wybodaeth yn eich ffurflenni treth Hunanasesiad, ni fyddwch chi'n gymwys ar gyfer y trydydd grant.
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn disgwyl i chi wneud asesiad gonest ynghylch a ydych chi'n credu'n rhesymol y bydd eich busnes yn profi gostyngiad sylweddol mewn elw.
I wneud cais am y trydydd grant, rhaid bod y coronafeirws wedi cael effaith newydd neu effaith barhaus ar eich busnes rhwng 1 Tachwedd 2020 a 29 Ionawr 2021, y credwch yn rhesymol y bydd yn arwain at ostyngiad sylweddol yn eich elw.
Mae'r trydydd grant trethadwy yn werth 80% o'ch elw masnachu misol ar gyfartaledd, wedi'i dalu mewn un rhandaliad sy'n cwmpasu gwerth 3 mis o elw, ac wedi'i gapio ar gyfanswm o £7,500.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK