Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi cyhoeddi canllawiau ac adnoddau i helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â chefnogi gweithwyr sy'n profi symptomau'r menopos.
Gall symptomau menopos gael effaith sylweddol ar fenywod yn y gwaith.
Canfu ymchwil gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu fod dwy ran o dair (67%) o fenywod sy’n gweithio rhwng 40 a 60 oed sydd â phrofiad o symptomau’r menopos yn dweud eu bod wedi cael effaith negyddol yn bennaf arnynt yn y gwaith.
O’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn negyddol yn y gwaith:
- dywedodd 79% eu bod yn llai abl i ganolbwyntio
- dywedodd 68% eu bod yn profi mwy o straen
- dywedodd bron i hanner (49%) eu bod yn teimlo'n llai amyneddgar gyda chleientiaid a chydweithwyr, a
- theimlai 46% yn llai abl yn gorfforol i gyflawni tasgau gwaith
O ganlyniad i hyn, roedd dros hanner yr ymatebwyr yn gallu meddwl am adeg pan nad oeddent yn gallu mynd i’r gwaith oherwydd symptomau eu menopos.
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, caiff gweithwyr eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ar sail nodweddion gwarchodedig gan gynnwys anabledd, oedran a rhyw.
Os yw symptomau’r menopos yn cael effaith hirdymor a sylweddol ar allu menyw i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, gellid ystyried y symptomau hyn yn anabledd. Os yw symptomau’r menopos yn gyfystyr ag anabledd, bydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwr i wneud addasiadau rhesymol. Byddant hefyd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i beidio â gwahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol oherwydd yr anabledd na gwneud y fenyw yn destun gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Menopos yn y gweithle: Canllawiau i gyflogwyr | EHRC (equalityhumanrights.com)