BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mentora i Bobl Creadigol

Happy couple looking at a digital device

Mae Cult Cymru wedi cyhoeddi rhaglen fentora newydd ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn adloniant byw a’r celfyddydau. Mae hyn yn agored i weithwyr creadigol llawrydd neu achlysurol sy’n byw a/neu’n gweithio yng Nghymru. Mae angen i bob ymgeisydd fod yn aelod o Bectu, Equity, Undeb y Cerddorionneu neu Urdd yr Awduron neu fod yn barod i ymuno.

Arweinir y rhaglen gan CULT Cymru a’i chefnogi gan Gronfa Ddysgu Undeb Cymru Llywodraeth Cymru.

I gael gwybod mwy am y rhaglen cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar-lein a gynhelir ar 23 Ionawr 2024.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 Chwefror 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Mentora - CULT Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.