BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mentora un-i-un am ddim gyda BT a Google

Bydd mentoriaid o BT a Google yn rhannu arbenigedd a syniadau ar sut i wella eich strategaethau marchnata digidol a’r cyfryngau cymdeithasol, ei gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i chi drwy Chwilio a mwy.

Gallwch chi ddysgu sgiliau busnes digidol, fel defnyddio Google Analytics, creu strategaeth marchnata digidol neu strategaeth cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy. Gallwch chi gymhwyso'r hyn a ddysgoch i’ch busnes i wneud iddo dyfu.

Ar ôl cofrestru, bydd mentor yn cael ei baru â chi yn seiliedig ar eich nodau busnes. Bydd sesiwn yn cael ei threfnu yn seiliedig ar eich argaeledd ac mae'r gwasanaeth am ddim!

Am ragor o wybodaeth, ewch i Google 1-to-1 Mentoring | Enterprise Nation
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.