BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mesur eich diwylliant diogelwch gydag Offeryn Hinsawdd Diogelwch yr HSE

Mae tystiolaeth yn dangos bod diwylliant diogelwch cryf wedi’i gysylltu â llai o achosion o anafiadau a damweiniau bu bron iddynt ddigwydd yn y gweithle.

Mae'r Offeryn Hinsawdd Diogelwch (SCT) wedi'i gynllunio'n ofalus gan wyddonwyr i asesu agweddau unigolion o fewn sefydliad tuag at faterion iechyd a diogelwch. 

Gan ddefnyddio holiadur ar-lein syml, mae'n archwilio agweddau a chanfyddiadau eich gweithwyr mewn meysydd allweddol o iechyd a diogelwch, tra'n gwarantu anhysbysrwydd. 

Gallwch hefyd wylio fideo SCT HSE i gael mwy o wybodaeth.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Safety Climate Tool (SCT) (hse.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.