BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan wedi'u hymestyn tan ddiwedd mis Mawrth 2021

Fel rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gymuned fusnes rhag effaith COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, wedi cael ei estyn tan 31 Mawrth 2021.

Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n methu talu ei rent rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.