BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mewnforio ac Allforio - canllawiau newydd

Rheolau Tarddiad: Gwiriwch fod eich nwyddau'n cydymffurfio â masnachu heb dariff gyda'r UE: Gyda chytundeb masnach mewn lle, gall busnesau'r DU fasnachu heb dariffau gyda'r UE o 1 Ionawr os yw eu cynhyrchion yn bodloni Rheolau Tarddiad y cytunwyd arnynt. Mae angen i fasnachwyr y DU wirio a yw eu cynhyrchion yn cydymffurfio a sut i brofi eu tarddiad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Newidiadau i awdurdodiadau allforwyr cymeradwy o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi am awdurdodiadau allforwyr cymeradwy, sy'n cael eu cyhoeddi yn y DU a heb fod yn ddilys yng ngwledydd yr UE o 1 Ionawr 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Datgan deunydd pacio y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer mewnforion ac allforion Prydain Fawr o 1 Ionawr 2021: O 1 Ionawr 2021, bydd angen datganiad mewnforio neu allforio ar ddeunydd pacio y gellir ei ailddefnyddio. Efallai y gallwch wneud datganiad ar y ffin (a elwir yn 'ddatganiad trwy ymddygiad') yn lle a darparu gwybodaeth i Gyllid a Thollau EM bob chwarter.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Hawlio cyfraddau ffafriol ar dollau rhwng y DU a'r UE o 1 Ionawr 2021: Ychwanegwyd canllawiau yn egluro sut i hawlio cyfraddau ffafriol ar dollau ar nwyddau a gwmpesir yng nghytundeb y DU â'r UE a sut i ddatgan nwyddau a fewnforir i'r DU ar eich datganiad mewnforio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Beth am ymweld â Phorth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru i gael cyngor a gwybodaeth ar gyfer eich busnes.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.