BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mewnforio ac Allforio Nwyddau: Model Gweithredu’r Ffin

Ar 1 Ionawr 2021 bydd y cyfnod pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, a’r Deyrnas Unedig yn gweithredu ffin allanol, lawn fel cenedl sofran. Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau’n cael eu gosod ar symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE.

Er mwyn rhoi mwy o amser i’r diwydiant wneud trefniadau angenrheidiol, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cyflwyno’r rheolaethau ffin newydd mewn tri cham hyd at 1 Gorffennaf 2021.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllaw ar sut y bydd y ffin â’r Undeb Ewropeaidd yn gweithio ar ôl y cyfnod pontio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.