Rhaid i fusnesau gyflwyno datganiadau mewnforio drwy Wasanaeth Datganiadau Tollau o 1 Hydref 2022.
Dim ond ychydig wythnosau sydd gan fusnesau sy'n mewnforio nwyddau ar ôl i symud i system dollau symlach newydd y DU.
Mae'n rhaid cyflwyno datganiadau mewnforio drwy'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau newydd o 1 Hydref 2022 eleni pan fydd yn cymryd yr awenau o'r system Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) ar gyfer datganiadau mewnforio.
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ysgrifennu at bob datganwr a masnachwr sy’n cael eu heffeithio gan y newid i'w hannog i gyrchu’r cymorth sydd ar gael nawr a symud i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
Er mwyn helpu pob busnes ac asiant i baratoi ar gyfer y Gwasanaeth Datganiad Tollau, cysylltir â datganwyr dros y ffôn a thrwy e-bost i'w hysbysu am gamau y mae angen iddynt eu cymryd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar GOV.UK, gan gynnwys pecyn gwybodaeth a rhestrau gwirio y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, sy'n dadansoddi'r camau y mae angen i fasnachwyr eu cymryd. Gall masnachwyr hefyd gofrestru neu wirio bod ganddynt fynediad at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau ar GOV.UK a chyrchu’r gwasanaethau cymorth cwsmeriaid yn fyw i gael help ychwanegol.
Mae mwy o wybodaeth am ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau ar GOV.UK.