BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mis Cenedlaethol Cerdded 2024

People walking

Mis Mai yw mis cenedlaethol cerdded ‘Living Streets’!

Cerdded yw un o’r ffyrdd symlaf o wella ein hiechyd a chadw mewn cysylltiad â’n cymuned, gan ein helpu i deimlo’n llai unig ac ynysig.

Y thema eleni yw #CyfareddCerdded #MagicofWalking ac mae’n dathlu manteision niferus cerdded a theithio ar olwynion i iechyd a hapusrwydd.

Cyflogwyr – gallwch ddangos eich ymrwymiad i iechyd a lles eich staff drwy fuddsoddi mewn gweithgareddau cerdded a fydd yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn falch o’u gweithle. Mae Living Streets wedi datblygu nifer o adnoddau, gan gynnwys heriau staff Walking Works, i helpu i ddod â chydweithwyr ynghyd, hyrwyddo lles yn y gweithle ac ysbrydoli newid cadarnhaol yn y diwylliant.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Workplaces | Living Streets

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol hefyd ar dudalennau "Cadw’n Heini" gwefan Cymru Iach ar Waith


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.