BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mis Hanes Anabledd 2024 - Stori Ceri

colourful symbols, wheelchair, people to depict inclusivity

Trwy gydol Mis Hanes Anabledd rydym am godi ymwybyddiaeth am fanteision cyflogi pobl anabl, a thynnu sylw at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael i gyflogwyr: UK Disability History Month – 14 November – 20 December 2024

Dyma hanes Ceri Jennings, Rheolwr Gyfarwyddwr, Sparkles Cleaning Services.

Ceri Jennings

Fel cwmni, mae Sparkles wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr moesegol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y busnes, gan ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn 21 oed eleni a hynny yn y diwydiant glanhau swyddfeydd a masnach.

Sefydlais Sparkles yn 2003 oherwydd bod fy mam a'm chwaer yn cadw gofyn i mi os byddwn yn glanhau iddyn nhw, a gallwch chi ond dychmygu beth oedd fy ymateb i hynny! Ond nid yw llawer o bobl mewn gwirionedd yn mynd ymlaen i ddechrau eu cwmni glanhau eu hunain.

Dim ond fi oedd yn gweithio i Sparkles ar y dechrau, ond erbyn hyn mae Sparkles yn cyflogi 35 o bobl. Ni fydd yn syndod i chi mai cadw staff yn y swydd a salwch yw’r heriau mwyaf yn y diwydiant glanhau. Fodd bynnag, mae trosiant ein staff glanhau ni ychydig o dan 2%, sydd heb ei glywed am yn y diwydiant glanhau. Mae ein cyfraddau salwch hefyd yn llai na 3%.

Rydym yn falch o fod yn gyflogwr hyderus o ran anabledd ac rydym ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ddod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd! Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gweithlu a'n hamgylcheddau gwaith yn barhaus i sicrhau ein bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.

Pam mae bod yn gyflogwr moesegol yn bwysig i mi?

Mae bod yn ddyslecsig a gorfod goresgyn y rhwystrau y mae hyn wedi'u hachosi i mi dros fy oes, cael merch sydd â Systig Ffibrosis, a diagnosis o ganser wnaeth newid fy mywyd yn 44 oed, wedi rhoi gwell dealltwriaeth a gwybodaeth i mi o'r hyn y mae pobl yn ei wynebu yn eu brwydrau bob dydd.

Mae bod yn hyderus o ran anabledd yn ymwneud â gwrando ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion a goresgyn y rhwystrau y gallai'r person hwnnw eu hwynebu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau i gefnogi cyflogwyr i recriwtio a chadw gweithwyr anabl. I ddarganfod mwy, dewiswch y dolenni canlynol:

Cysylltwch a’rHyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru drwy ddanfon e-bost at hcpa@llyw.cymru neu chysylltwch gyda Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru: Catherine.Rowland@BusinessWales.org  a Lisa.James-Gillum@BusinessWales.org 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.