
Mae Mis Hanes LHDT+ i bawb; p'un ai ydych chi'n gweithio ym myd addysg, mewn amgueddfa, llyfrgell neu oriel gelf, busnes, gwasanaeth, neu'n aelod o rwydwaith/grŵp cymdeithasol neu’n unigolyn.
Caiff ei ddathlu bob mis Chwefror ar draws y DU, ac yn 2025 mae Schools OUT yn dathlu ei 50fed blwyddyn ac 20 mlynedd o Fis Hanes LHDT+ yn y DU.
Bob blwyddyn mae Schools OUT yn gosod thema wahanol ar gyfer Mis Hanes LHDT+ ac mae’n darparu adnoddau am ddim i leoliadau addysg, busnesau, gwasanaethau a sefydliadau i'w helpu i ddathlu ac 'Arferoli' bywydau LHDT+ yn eu holl amrywiaeth.
Thema Mis Hanes LHDT+ y DU 2025 yw Gweithredu a Newid Cymdeithasol. Trwy gydol hanes mae pobl LHDT+ wedi bod yn ymgyrchwyr gweithredol ac wedi helpu i siapio a chreu newid cymdeithasol, gan hyrwyddo cymdeithas i bawb.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: - LGBT+ History Month
Darllenwch Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru gan Lywodraeth Cymru: Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru | LLYW. CYMRU
Gyda Mis Hanes LHDT+ ar y gweill, mae cymunedau ledled Cymru yn edrych ymlaen at dymor o ddathliadau Balchder yn ystod y misoedd nesaf.
O drefi bach i ddinasoedd, bydd y digwyddiadau hyn yn dod â phobl at ei gilydd, gan greu mannau croesawgar lle gall pawb ddathlu amrywiaeth, teimlo eu bod yn cael eu gweld, a bod yn nhw eu hunain.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi digwyddiadau Balchder ar lawr gwlad, gan eu helpu i dyfu, cyrraedd mwy o bobl, trefnu perfformwyr o Gymru, a chreu mannau croesawgar sydd wedi'u creu gan ac ar gyfer pobl LHDTC+ a'u cynghreiriaid: Digwyddiadau Balchder yn dod â chymunedau at ei gilydd ar draws Cymru | LLYW.CYMRU