BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

MIT yng Nghymru – A allai eich busnes elwa?

Gallech gael y cyfle i elwa’n uniongyrchol ar wybodaeth ac arbenigedd blaenllaw Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT), sef un o brif sefydliadau ymchwil ac academaidd y byd. Mae'n enwog am ragoriaeth mewn meysydd fel Technoleg, Peirianneg, y Gwyddorau ac Arweinyddiaeth.

Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr arnom ni i gyd, ac mae'r gymuned fusnes wedi teimlo hyn yn fwy na'r rhan fwyaf. Fodd bynnag, mae hefyd wedi ein hyrddio tuag at y dyfodol ac mae'r defnydd o dechnolegau newydd yn cyflymu ar raddfa ddigynsail. Mae llawer wedi achub ar y cyfle hwn i edrych ar ffyrdd newydd o wneud pethau a fydd yn eu rhoi mewn sefyllfa i ailgodi’n gryfach nag erioed ar ôl COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i'ch cefnogi ar y daith hon, gan eich cysylltu â rhai o feddylwyr mwyaf blaenllaw’r byd yn MIT, wrth i chi lywio'r dyfodol ansicr hwn gyda mwy o sicrwydd y bydd y penderfyniadau a wnewch yn awr yn gynaliadwy, a bod ganddynt fanteision hirdymor. 

Gall hyn gynnwys edrych ar y cyfleoedd i drawsnewid yr hyn y mae eich busnes yn ei gynnig a sut mae'n gweithredu drwy dechnolegau cyfredol a thechnolegau sy'n datblygu megis Deallusrwydd Artiffisial (AI), Blockchain, Realiti Rhithwir (VR), Roboteg ac Awtomatiaeth. Efallai y cewch y sicrwydd bod eich busnes wedi'i baratoi'n dda ar gyfer y dyfodol, neu efallai y byddwch yn dod o hyd i rai ffyrdd newydd o arloesi a mynd i'r afael â heriau sy'n wynebu eich busnes, fel Brexit, neu'r heriau hynny sy'n wynebu'r byd ehangach, megis newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio.

Rhaglen Cyswllt Diwydiannol MIT

Yn 1948, sefydlodd MIT y rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP) i bontio'r bwlch rhwng ymchwil a diwydiant. Mae hyn wedi arwain at gydweithio a pherthynas â busnesau ledled y byd, o fusnesau newydd i gorfforaethau byd-eang, gan gynnwys llawer o enwau cyfarwydd fel Apple, Intel, BP, Hewlett Packard, General Electric (GE) a Samsung.

Drwy aelodaeth ILP Llywodraeth Cymru gallech chi hefyd gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau fel gweminarau, cynadleddau a gweithdai wedi'u teilwra i'ch helpu i wneud y penderfyniadau gorau ar gyfer eich busnes, wedi'u llywio gan waith ymchwil blaenllaw ac arweinwyr meddwl byd-eang. 

Y newyddion gorau yw ei fod am ddim! Mae aelodaeth Llywodraeth Cymru o ILP yn golygu y gall eich busnes ymgysylltu â MIT drwy amrywiaeth o ddulliau ar-lein am ddim. Os nad ydych yn siŵr o hyd, beth am wylio rhai clipiau o siaradwyr MIT blaenorol sydd wedi cyflwyno sesiynau ar gyfer Cymru yn unig:

Fiona Murray  arbenigwr rhyngwladol ar drawsnewid buddsoddiadau mewn arloesedd gwyddonol a thechnegol yn ‘entrepreneuriaeth sy'n seiliedig ar arloesedd’ i sbarduno creu swyddi, cyfoeth, a ffyniant rhanbarthol.

Phil Budden – Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Reolaeth MIT, yng Ngrŵp Arloesedd Technolegol, Entrepreneuriaeth a Rheolaeth Strategol Sloan, lle mae'n canolbwyntio ar ‘entrepreneuriaeth sy’n seiliedig ar arloesedd’ (IDE) ac ecosystemau arloesi. 

Nelson Repenning  Athro nodedig yr Ysgol Reolaeth ar gyfer Astudiaethau Trefniadaeth a Dynameg Systemau yn Ysgol Reolaeth MIT Sloan.

Cadwch mewn cysylltiad – Hoffem glywed gennych

Hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr ohebiaeth a chael gwybod am holl newyddion MIT?

Oherwydd COVID-19 mae aelodaeth ILP Llywodraeth Cymru wedi'i hymestyn tan fis Awst 2022. Er mwyn cydymffurfio â GDPR, edrychwch ar ein Hysbysiad Preifatrwydd drwy glicio Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Cyswllt Ddiwydiannol Sefydliad Technoleg Massachusetts Mai 2021 (smartsurvey.co.uk)

Gofynnir i chi lenwi arolwg byr i fynegi eich barn o ran pa gynnwys ILP y byddwn yn ei ddarparu nesaf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.