BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Miwtini - rhaglen ar gyfer busnesau Creadigol a Digidol

Rhaglen 8 wythnos sydd yma i'ch helpu chi i gychwyn eich busnes, gyda phopeth o gynllunio busnes, i ariannu, i gymuned o gefnogaeth y tu ôl i chi!

Gweithredwch, dechreuwch Miwtini yn eich bywyd, dechreuwch eich busnes!

Mae ein Miwtini nesaf mewn partneriaeth â The Design Trust a DVSC Change Makers Market.

Mae'r Miwtini hwn yn canolbwyntio ar fusnesau Creadigol a Digidol, a bydd wedi'i gynllunio'n benodol i'r rhai sy'n cychwyn neu'n tyfu busnes yn y sectorau hynny.

Mi fydd y rhaglen arlein yma yn rhedeg bob Dydd Mercher am ddwy awr rhwng 2 Mehefin a 21 Gorffennaf 2021.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan M Sparc Hwb Menter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.