BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mobility Pathfinder 2023

Gall Rhaglen Arloesi Mobility Pathfinder, gyda chyllid o £50,000 i £70,000 ar gael ar gyfer syniadau, prototeipiau neu gynlluniau ysbrydoledig a fydd yn gwella bywydau, i ailddychmygu sut y gall opsiynau symudedd personol yn y DU, gynorthwyo poblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym i aros yn gysylltiedig, yn actif ac yn annibynnol am gyfnod hwy.

Mae Rhaglen Arloesi Mobility Pathfinder y Design Age Institute, wedi'i hariannu gan Her Heneiddio’n Iach Ymchwil ac Arloesi yn y DU, sy’n rhan o Innovate UK, sef asiantaeth arloesi’r DU, yn gwahodd arloeswyr, busnesau ac entrepreneuriaid o bob cwr o'r DU i gynnig atebion symudedd personol ar gam syniadaeth neu’r tu hwnt sy'n hyfyw’n fasnachol, yn dangos creadigrwydd ac arloesedd, ac y gellir eu cefnogi tuag at y farchnad drwy fuddsoddi mewn dylunio da.  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Mai 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Mobility Pathfinder 2023 - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.